
Clwb Rhwyfo Beaumaris
Croeso i Glwb Rhwyfo Biwmares! Rydym yn glwb rhwyfo arfordirol sydd wedi ei leoli ar ynys hardd Ynys Môn oddi ar arfordir Gogledd Cymru. Lleolir y clwb yng nghanol tref Biwmares ar lannau’r Fenai, y lleoliad perffaith ar gyfer rhwyfo arfordirol.
Rydym yn glwb rhwyfo arfordirol cyfeillgar a chroesawgar ar gyfer pobl o bob oed, pob gallu ac o bob cefndir. Rydyn ni'n rhwyfo ar yr Afon Menai bron bob dydd o'r wythnos a thrwy gydol y flwyddyn, gyda sesiynau rhwyfo at ddant pawb gan gynnwys rhwyfo hamdden, teithiau, hyfforddiant a chystadlu. Rydym yn perthyn i Gymdeithas Rhwyfo Môr Cymru ac rydym yn cystadlu’n rheolaidd mewn rasys cynghrair ac agored ar hyd a lled arfordir gogledd a gorllewin Cymru.

Rydym yn rhwyfo mewn Cychod Hir Celtaidd sydd â sedd sefydlog yn ogystal a mewn sgyliau arfordirol sydd â seddi llithro. Mae gan y clwb bum Cwch Hir Celtaidd sydd yn gychod rhwyfo arfordirol cadarn gyda phedwar criw rhwyfo ynghyd â chocs. Mae gennym hefyd ddwy Sgwl Arfordirol; un Sgwl Ddwbl heb gocs ac un Sgwl i Bedwar â Chocs.
Rydym yn croesawu aelodau newydd ac nid oes angen profiad rhwyfo. Rydym yn cynnal sesiynau blasu rhwyfo rheolaidd, yn rhad ac am ddim, felly cysylltwch â ni os hoffech roi cynnig ar rwyfo arfordirol.
Oddi ar y dŵr, rydym yn glwb cymdeithasol a bywiog felly mae rhywbeth at ddant pawb p’un a oes gennych ddiddordeb mewn rhwyfo ar gyfer ffitrwydd, ar gyfer cystadlu, er mwyn cwrdd â ffrindiau newydd neu i rwyfo am hwyl.