top of page

Marathon afon Tafwys

  • garypritchard1
  • Sep 24
  • 4 min read

Updated: Sep 25

Y Great River Race ar y Tafwys
Y Great River Race ar y Tafwys

Dwi byth yn ei wneud eto … byth … na, dwi ddim … dim ffiars o beryg.

 

Dyma'r sgwrs dwi’n ei gofio yn y car ar y daith hir yn ôl o Lundain ar ôl y Great River Race llynedd.

 

Dwi wedi'i wneud o rwan, does dim angen i mi ei wneud eto …

 

… ac eto, dyma ni, am 5.45 ar fore tywyll ym mis Medi, 12 mis yn ddiweddarach, yn eistedd ar fws yn aros am lifft o Teddington i Millwall er mwyn gwneud y daith i lawr afon Tafwys … eto!

 


Anelu am Tower Bridge
Anelu am Tower Bridge

Caiff y Great River Race ei hadnabod fel Marathon Afon Llundain; ras 21.6 milltir o dan 28 o bontydd o Millwall yn y dwyrain i Richmond yn y gorllewin. Mae hon hefyd yn ras sydd yn cael ei thrafod ag ofn o fewn Clwb Rhwyfo Beaumaris yn fy amser fel aelod. Mae gen ti Montford, mae gen ti'r Madog Dash ... ond yna … mae gen ti Llundain!

 

Cafwyd y ras cyntaf ym 1988 ar gyfer cychod rhwyfo traddodiadol sydd ag o leiaf pedwar rhwyf a seddi sefydlog. Pwrpas y ras yw anrhydeddu traddodiad a phroffesiwn y Watermen a'r Lightermen ar y Tafwys.

Anrhydeddu traddodiad rhwyfwyr y Tafwys

Roedd y Watermen a’r Lightermen yn rhan hanfodol o fywyd Llundain am gannoedd o flynyddoedd gyda'r Watermen yn cludo pobl, tra bod y Lightermen yn cludo nwyddau - daw enw’r Lightermen o’r ffaith eu bod yn ysgafnhau llwyth y llong (lighten the load) wrth drosglwyddo cargo i long arall neu i'r lan.

 

Mae teithwyr wedi eu cludo i fyny ac i lawr yr afon mewn skiff neu wherry ers ddiwedd y 12fed Ganrif ond roedd yn broffesiwn anhrefnus wrth i Lundain dyfu ac wrth i fwy a mwy o strwythurau gael eu gosod ar draws yr afon, ond ym 1650 penderfynodd Harri VIII drwyddedu’r cychod a rhoddodd hawliau unigryw iddynt i gludo teithwyr ar yr afon.

 

Dyma pam mae gofyniad i bob cwch sy’n cystadlu yn y ras gludo teithiwr ac wrth i bob un o bedwar criw Clwb Rhwyfo Beaumaris gychwyn ochr yn ochr â 263 o gychod eraill o bob lliw a llun, roeddem yn gwneud hynny gan wybod ein bod yn dathlu traddodiad a phroffesiwn hynafol a gwerthfawr.

 

Mae'r ras ei hun yn cael ei rhedeg gyda system handicap gyda chychod arafach fel Skiff, a Skerry yn cychwyn yn gynharach na'r Gig Cernyweg a Thames Cutters cyflymach a mwy pwerus.

 

Roedd ein Cychod Celtaidd ni ymysg yr olaf i gychwyn ac roedd yn wych gweld cymaint o glybiau Cymreig yn cael eu cynrychioli gyda wynebau a chychod cyfarwydd o Ynys Môn, Porthmadog, Aberdyfi, Aberystwyth a Neyland yn ogystal â chychod Celtaidd o glybiau nad oeddem yn ymwybodol ohonynt fel Lower Thames, Chichester a Dell.

 

Golygfeydd eiconig


Dim ond pedair milltir oedd hi o gychwyn y ras i'r bont gyntaf a’r pont mwyaf eiconig yn y ras; Tower Bridge. Roedd torf enfawr ar y bont a’r llwybr gerllaw ac roedd y gymeradwyaeth a'r anogaeth wrth i ni basio o dan y tyrau enwog yn hwb enfawr ac yn eiliad eithaf emosiynol.

 

Mae'r ras ei hun yn gyffrous, cynhyrfus, pleserus, brawychus, blinedig, cythryblus a boddhaol i gyd ar yr un pryd. Roedd adegau yn ystod y ras pan oedd dyn yn wirioneddol cwestiynu ei benderfyniad i gamu i'r gwch ar gychwyn y ras, ond roedd llawer iawn mwy o adegau lle'r oedd rhywun yn teimlo mor freintiedig i fod ar y dŵr.

 


Rhwyfo heibio San Steffan
Rhwyfo heibio San Steffan

Mae Llundain yn edrych yn gwbl wahanol o'r dŵr ac mae lle'r Tafwys fel y prif lwybr yn ystod cyfnod cynnar datblygiad y ddinas yn dod yn amlwg wrth i rai o leoliadau enwocaf Llundain ddod i'r golwg.

 

Ychydig filltiroedd wedi rhwyfo o dan Tower Bridge, mae Eglwys Gadeiriol Sant Paul yn dod i'r golwg cyn i'r ras symud heibio i'r London Eye, San Steffan a Big Ben cyn cyrraedd gwyrddni Parc Battersea a chrandrwydd Chelsea a Fulham, sy’n cynnwys Craven Cottage, cartref Clwb Pêl-droed Fulham.

 

Fodd bynnag, dyw’r golygfeydd ddim yn uchel ar restr flaenoriaethau'r rhwyfwyr ond mae’n gyfle gwych i'r teithwyr ym mhob cwch allu tynnu lluniau ar gyfer eu cyfrifon Instagram!

 

Roedd gwneud ein ffordd trwy draffig y Skiffs, Skerrys, Gigs a Cutters yn waith caled gyda chymaint o gychod yn y ras, gan arwain at floeddio achlysurol o "Rhowch ddŵr i ni", "Gwyliwch y rhwyfau" ... neu, mewn o leiaf un achos, geiriau na allai rhywun eu hailadrodd yma!

 

Er bod 267 o gychod yn y ras, roedd ein sylw ni wedi’i hoelio ar basio unrhyw Gwch Celtaidd, gan arwain at lot fawr o hwyl, sbri a chystadleuaeth gan fod gan pob criw Celtaidd yr un syniad yn union!



Mwynhau peint ... neu ddau!
Mwynhau peint ... neu ddau!

Wrth agosáu at y llinell derfyn, roedd llawer mwy o gefnogwyr ar y lan yn ein cymeradwyo ac yn bloeddio eu hanogaeth.


Roedd gweld a chlywed rhai aelodau o Glwb Rhwyfo Beaumaris oedd wedi gwneud y daith i lawr i Lundain i'n cefnogi yn hwb anferthol i'n criwiau wrth i gyrff ddechrau gwegian ac wrth i feddyliau droi at y peint cyntaf hwnnw ar ôl y ras!


Sicrhaodd ein holl griwiau amseroedd parchus tu hwnt gyda chriwiau dynion Menai (2:42:51) a Cybi (2:49:09) yn gorffen yn drydydd a chweched allan o'r 29 cwch Celtaidd yn y ras.


Gorffennodd Siwan (2:59:15) a Seiriol (3:04:00) yn bedwerydd ac yn wythfed yn y dosbarth cymysg - gan orffen yn 11eg ac 16eg o'r holl gychod Celtaidd.

 

Aeth y dathliadau ymlaen am gryn amse wedi’r ras yn y bariau ar y lan cyn i’r clwb symud ymlaen yn ddiweddarach yn y nos i fwynhau cyri haeddiannol diolch i Mari a’i threfniadau craff “bwrdd i 31 os gwelwch yn dda!

 

Mae’n debyg “nad ydyn ni yn gwneud y ras yma flwyddyn nesaf” … wel, gawn ni weld!



Comments


bottom of page