top of page

Rasio i Seiriol ar ddiwrnod odidog

  • garypritchard1
  • Jul 19
  • 2 min read

Updated: Aug 10


Criwiau yn paratoi eu cychod ar gyfer Ras Ynys Seiriol
Criwiau yn paratoi eu cychod ar gyfer Ras Ynys Seiriol

Gan fod llawer yn gweld Ras Ynys Seiriol fel eu hoff ras o'r tymor, doedd dim syndod bod uchafswm o 24 o gychod wedi cychwyn y ras eleni.


Mae golygfeydd godidog i'w gweld ar y cwrs 10.5 milltir o hyd sy'n mynd o Beaumaris hyd at Drwyn Du ac o amgylch yr ynys ei hun a'r cyfle i weld Morloi Llwyd yn ogystal â'r Gwylogod, Gweilch y Penwaig, Mulfrain, Mulfrain Gwyrdd ac, os ydych chi'n lwcus, un neu ddau Pâl.


ree

Gyda llanw isel i fod awr ar ôl dechrau'r ras, gadawodd y cychod Beaumaris gyda llanw cymharol araf gan anelu tuag at Fae Fryars a'r daith hir tuag at Drwyn Du ac Ynys Seiriol.


Y cychod cyntaf i gyrraedd yr ynys oedd Beca o Glwb Rhwyfo Porthmadog a Menai o Beaumaris, gyda Ceridwen o Aberystwyth a Mary Meldrum o Ddeganwy yn dyn ar eu sodlau.


Roedd y Llychlynwyr yn adnabod yr ynys fel Priestholme, cyfeiriad clir at ei hanes eglwysig, hanes sydd hyd yn oed yn fwy amlwg, wrth gwrs, yn yr enw Cymraeg ar yr ynys.


Sefydlodd Sant Seiriol y fynachlog ym Mhenmon a chymuned fach ac eglwys ar yr ynys ei hun yn y 6ed Ganrif.


Cwch y clwb cartref, Menai, oedd y cyntaf i droi ochr bellaf yr ynys o dan yr hen Orsaf Delegraff, gan ymestyn eu mantais dros Beca wrth i'r cychod anelu'n ôl tuag at oleudy enwog Trwyn Du.


Ar ôl negodi'r swnt, penderfynodd Menai gymryd llinell ochr y lan o longddrylliad yr Hoveringham gan obeithio am ddigon o lanw i'w gweld drwodd ac osgoi rhwyfo yn erbyn llif olaf y llanw.


Suddodd yr Hoveringham II, llong dreillio tywod, ym 1971 wrth deithio o Lerpwl i Borth Penrhyn, Bangor. Yn ffodus i Menai, roedd digon o ddŵr i'w gweld drwodd a chynnal eu mantais dros Beca a rhwyfo yn ôl mewn amser rhagorol o 1 awr 32’ 28”.


Ceridwen o Aberystwyth oedd y criw cymysg cyntaf dros y llinell derfyn gan orffen yn y pedwerydd safle tra llwyddodd Blodwen o Glwb Rhwyfo Porthmadog i ddal ar y blaen i Seiriol o Beaumaris mewn ras merched agos iawn gyda dim ond 27 eiliad rhwng y ddau gwch.


Yn y ras sgwliau, cwad dynion Clwb Hwylio Madog, Porthmadog oedd y cwch cyntaf i orffen gyda chriw cymysg cwad Biwmares yn gorffen yn ail a Wendy Grainge o MYC oedd yr unig sgwl sengl i gwblhau'r ras.


Fel sy'n wir bob amser, darparodd gwirfoddolwyr Clwb Rhwyfo Biwmares bryd rhagorol ar ôl y ras gyda digon o fwyd ... a chacen i fodloni'r 166 o rwyfwyr yn ogystal a'r cefnogwyr niferus cyn y seremoni wobrwyo.


ree

Comments


bottom of page