Ras Ynys Seiriol 2026
- 7 days ago
- 1 min read

Cynhelir ras eiconig Ras Ynys Seiriol unwaith eto eleni ar Sadwrn 9ed Mai.
Mae'r ras 17.5km (11 milltir) yn un o rasys mwyaf poblogaidd calendr Rhwyfo Môr Cymru oherwydd y golygfeydd godidog a'r toraeth o fywyd gwyllt sydd i'w weld ar y darn yma o ddŵr.

Gan gychwyn yn nref hanesyddol Beaumaris o fewn tafliad careg i'r castell mawreddog, mae'r ras yn rhedeg ar hyd yr Afon Menai gan basio cerrig oes yr ia a llongddrylliadau hynafol ochr yr Ynys ac yng nghysgod mynyddoedd y Carneddau ar y tir mawr.
Wedi rhwyfo o amgylch Ynys Seiriol a'i llu o forloi, creigiau llawn mulfrain, bilidowcar a phalod, mae'r ras yn pasio heibio goleudu Trwyn Du - un o olygfeydd enwocaf Ynys Môn - cyn troi am adref a'r llinell derfyn ger Clwb Hwylio Brenhinol Ynys Môn.

Mae'n ras i Gychold Celtaidd gyda ras Merched, Hŷn a Chymysg yng nghategorïau
Agored, Fet ac UwchFet. Mae croeso i gychod Sgwl hefyd.
Cyflwynir lluniaeth yn y clwb gan gynnwys brecwast a diodydd poeth cyn y ras a bwyd poeth a chacennau cyn y gwobrwyo.
Os oes un rhyw glwb am wneud penwythnos ohonni yn Beaumaris, mae gan y dref ddigon o westai, opsiynau gwely a brecwast ac huanarlwyo ac mae sawl bwyty a thafarn yn y dref i sicrhau penwythnos llawn hwyl.

Am fwuy o fanylion ac i ddatgan eich diddordeb mewn cystadlu yn y ras eleni, plis cysylltwech efo brclubsec@gmail.com





Comments