top of page
Beaumaris Rowing Club Celtic Longboats_edited.jpg

Amdanom ni

Mae hanes hir o rhwyfo ar y Fenai. Sefydlwyd Clwb Rhwyfo gwreiddiol Beaumaris ym 1873 ac roedd hysbysiad regata o 1830 yn cynnig rasys ar gyfer "cychod chwe rhwyf" a "chwch pedwar rhwyf".

 

Yn 2013, gyda chefnogaeth Clwb Hwylio Brenhinol Ynys Môn, sefydlwyd Clwb Rhwyfo Beaumaris gan grŵp o bobl leol ymroddedig gydag un Cwch Hir Celtaidd. Mae’r clwb wedi mynd o nerth i nerth ers hynny ac erbyn hyn mae ganddo fflyd o bum Cwch Celtaidd a dwy Sgwl Arfordirol.

Rydyn ni'n rhwyfo trwy'r flwyddyn yn Beaumaris ond rydym hefyd yn aml yn cystadlu mewn rasys ar hyd a lled Cymru yn ogystal a theithiau hamdden i fannau eraill gan gynnwys Ardal y Llynnoedd a hyd yn oed Llundain i gystadlu yn y Great River Race ar hyd Afon Tafwys.

Rydym hefyd yn cynnal dau ddigwyddiad blynyddol yn Beaumaris, sef un o rasys Cynghrair Gogleddol Rhwyfo Môr Cymru a ras eiconig o amgylch Ynys Seiriol.

Oddi ar y dŵr, rydym yn glwb cymdeithasol gydag amrywiaeth wych o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn.

Ein Cychod Rhwyfo Arfordirol

Ers dechrau gydag un Cwch Hir Celtaidd mae'r clwb wedi tyfu'n sylweddol a bellach mae ganddo fflyd o bum Cwch Hir Celtaidd a dwy Sgwl Arfordirol. Mae pob un o'r cychod hyn wedi'u cynllunio'n benodol ar gyfer rhwyfo arfordirol ar y môr.

Cychod Hir Celtaidd

Mae gan y cychod rhwyfo arfordirol cadarn yma griw o bedwar rhwyfwr a chocs. Mae ganddyn nhw seddi sefydlog ac un rhwyf ar gyfer pob un o'r criw.
Mae pob Cwch Hir Celtaidd wedi ei ddylunio yr un fath sy'n golygu y gall pob cwch gystadlu ar sail gyfartal. Gallwch ddarllen mwy am hanes y cwch hir Celtaidd ar wefan Rhwyfo Môr Cymru. Mae pob cwch hir Celtaidd yn cael ei wneud gan Dale Sailing yn Neyland, Sir Benfro.

 

Hyd - 24' 6" / 7.5m

Lled - 4' 11" / 1.5m

Pwysau - 137 kg
 

Ein Cychod Hir Celtaidd yw 'Mabli', 'Menai', 'Seiriol', 'Cybi' a 'Siwan'.

Sgwl i Bedwar â Chocs

Yn wahanol i’r Cychod Hir Celtaidd, mae’r pedwar rhwyfwr yn eistedd ar seddi llithro ac yn defnyddio dwy rwyf. Gallwch ddarllen mwy am y cwch rhwyfo arfordirol cyffrous hwn ar wefan Swift Racing.

 

Hyd - 10.7m

Lled - 0.7m (llinell ddŵr)

Pwysau - 130 kg

bottom of page