Aelodaeth
Mae aelodaeth o Glwb Rhwyfo Beaumaris yn agored i bawb; profiad rhwyfo blaenorol ai peidio. Mae’r clwb yn cynnig sesiynau rhwyfo mewn Cychod Hir Celtaidd i weddu pob lefel a gallu ac mae croeso i aelodau newydd trwy gydol y flwyddyn.
Os oes gennych ddiddordeb ymuno neu os hoffech ddarganfod mwy am rwyfo arfordirol cysylltwch â ni.
Sesiynau blasu am ddim
Gallwch roi cynnig ar rwyfo gyda sesiwn flasu am ddim yn un o’n Cychod Hir Celtaidd heb unrhyw rwymedigaeth i ymuno.
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol gan y bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu a byddwch yn mynd allan ar y dŵr gyda rhai o'n rhwyfwyr profiadol.

Os ydych chi'n mwynhau'r rhagflas (gallwch gael hyd at ddwy sesiwn os nad ydych chi'n siŵr ar ôl y cyntaf) ac eisiau parhau, bydd angen i chi gwblhau'r broses aelodaeth. Yna byddwch yn cael mynediad i Spond, ein app clwb, a fydd yn eich galluogi i ymuno â weithgareddau’r clwb a chofrestru ar gyfer sesiynau rhwyfo yn ogystal â digwyddiadau cymdeithasol.
Manylion Aelodaeth
Fel aelod o Glwb Rhwyfo Biwmares byddwch hefyd yn dod yn aelod o Glwb Hwylio Brenhinol Ynys Môn gan roi mynediad i chi i'r clwb gwych ar lan môr Beaumaris.
Byddwch hefyd yn elwa o gynllun aelodaeth gostyngol yng nghanolfan hamdden gymunedol Canolfan Beaumaris, lle mae pob math o weithgareddau, dosbarthiadau ffitrwydd a champfa.
BRC membership fees for 2024 are -
-
Aelodaeth Llawn 18-24: £110 pob blwyddyn
-
Aelodaeth Llawn 25-39: £165 pob blwyddyn
-
Aelodaeth Llawn 40-59: £235 pob blwyddyn
-
Aelodaeth Llawn 60+ £175 pob blwyddyn
Mae'r ffioedd hyn yn cynnwys ffi rhwyfo blynyddol y BRC, aelodaeth CHBYM ac aelodaeth cyswllt o Gymdeithas Rhwyfo Môr Cymru.
Mae gostyngiadau ar gael i fyfyrwyr 18-21 oed sydd mewn addysg llawn amser.