Digwyddiadau Rhwyfo Arfordirol
Mae Clwb Rhwyfo Beaumaris yn croesawu rhwyfwyr o glybiau sy’n gysylltiedig â Chymdeithas Rhwyfo Môr Cymru ar gyfer ras Cynghrair Cychod Hir Celtaidd blynyddol y clwb.
Cynhelir y rasys o dan oruchwyliaeth Clwb Hwylio Brenhinol Ynys Môn mewn lleoliad rhagorol ar lan y môr yn Beaumaris. Yn edrych dros Y Fenai gyda golygfeydd godidog dros fynyddoedd Eryri ar y tir mawr, mae'n lleoliad ysblennydd ar gyfer rhwyfo arfordirol cystadleuol.
Ras Cynghrair y Gogledd, Beaumaris
Mae rasys ar gyfer categorïau Merched, Hŷn a Chymysg gyda gwobrau ym mhob un o gategorïau Rhwyfo Môr Cymru ar gyfer criwiau Hŷn, Fet ac UwchFet.
Mae brecwast, te, coffi a chacennau yn cael eu gweini yn y clwb ac mae bwyd ar ôl y ras ar gael i gystadleuwyr a chefnogwyr.

Mae’r llinell gychwyn/gorffen ychydig oddi ar y marian yn Beaumaris sy’n golygu fod modd i gefnogwyr wylio’r holl rasio o’r lan (yn dibynnu ar y cwrs a ddewisir).
Ymunwch â ni am ddiwrnod gwych o rwyfo!
Ras Nesaf: Sul 15ed Mehefin 2025
Rhybudd Ras: i ddilyn ...
Ffurflen Gofrestru: i ddilyn ...
Clwb Rhwyfo Biwmares - Ras Ynys Seiriol
Mae hon yn ras 11 milltir eiconig ar gyfer Cychod Hir Celtaidd na ellir ei golli!
Gan gychwyn o lein Clwb Hwylio Brenhinol Ynys Môn sydd oddi ar y marian, mae cychod yn rasio tua’r dwyrain i lawr Y Fenai er mwyn mynd o amgylch Ynys Seiriol, heibio i oleudy Trwyn Du, Penmon thrwy’r Swnt cyn rhwyfo yn ôl am y dref.

Rhoddir gwobrau ym mhob categori a gwasanaethir lluniaeth yn y clwb cyn ac ar ôl rhwyfo gan gynnwys brecwast, diodydd poeth, cacennau a bwyd.
Ymunwch â ni am yr hyn sy'n argoeli i fod yn ddiwrnod gwych ar y dŵr!
Ras Nesaf: Sadwrn 19eg Gorffennaf 2025
Rhybudd Ras: i ddilyn ...