RhMC Cynghrair y Gogledd - Porthmadog
- garypritchard1
- May 17
- 2 min read

Gwnaeth Clwb Rhwyfo Beaumaris y daith gymharol fyr i Borthmadog ar gyfer ras Cynghrair y Gogledd gyda phedwar ar hugain o rwyfwyr yn ffurfio dau griw yn ras y Merched, tri yn y Ras Agored a phedwar gwych yn y Ras Gymysg. Gyda heulwen llachar a gwyntoedd ysgafn roedd yr amodau’n rhagorol am ddiwrnod gwych o rasio yng Nghlwb Hwylio Madog.
Y Merched oedd y cyntaf i rasio, gan frwydro yn erbyn y llanw oedd yn prysur godi heibio i Borth-y-Gest cyn troi am adref. Gorffenodd y criw Agored yn bumed parchus iawn pumed safle gyda'r tîm UwchFet yn sicrhau perfformiad canmoladwy i orffen yn ail yn eu categori.
Y ras nesaf oedd y ras Agored gyda criw Menai yn gobeithio sicrhau eu buddugoliaeth cyntaf o'r tymor a gyda chriwiau UwchFet Seiriol a Cybi yn edrych i gipio pwyntiau i'r Clwb.
Cafwyd chwip o berfformiad gan Menai wrth i'r gwch hedfan o amgylch y cwrs 5.7km mewn 31' 18" a hawlio'r fuddugoliaeth. Ac i ychwanegu at berfformiad Menai cafwyd ras wych gan Seiriol wrth iddyn nhw orffen yn drydydd a sicrhau bod y tlws UwchFet hefyd yn dod i Beaumaris. Cwblhaodd C ybi'r ras â pherfformiad dewr er mwyn sicrhau mwy o bwyntiau gwerthfawr i'r clwb.
Ar ôl cyfnod byr i bawb gael eu gwynt atynt, roedd pob un o gychod Beaumaris yn ôl ar y dŵr ar gyfer y ras Cymysg.
Dangosodd Menai ei chryfder unwaith eto, ond roedd eu tactegau ar gyfer y ras olaf yr un mor bwysig. Ar ôl troi o amgylch y bwi, cymrodd Menai linell lydan dros y banciau tywod er mwyn osgoi'r llanw trai cryf. Roedd yn benderfyniad synodd pawb, gan gynnwys y cychod diogelwch ar flaen y ras oedd, yn ôl y siarad ar y radio, yn hanner disgwyl i Menai fynd yn sownd ar y tywod!
Talodd y strategaeth beiddgar ar ei ganfed wrth iddynt bweru heibio i'r holl gychod o'u blaenau i hawlio buddugoliaeth mewn amser o 35' 55".
Dangosodd criw Cybi eu cryfder hefyd gan hawlio'r pedwerydd safle mewn amser o 36' 32" a buddugoliaeth yn y categori Agored gyda'r ddau griw UwchFet, Seiriol a Siwan yn gorffen yn 9fed a 12fed.
Ar ôl y lluniaeth arferol ar ôl y ras, cafodd y garfan fawr o Beaumaris fodd i fyw yn y cyflwyniad wrth gasglu gwobrau am ddwy fuddugoliaeth gyffredinol a dwy fuddugoliaeth categori i gloi diwrnod hynod bleserus. Diolch yn fawr i bawb yng Nghlwb Hwylio Madog am gynnal digwyddiad gwych!
Comentarios