Diweddglo gwych i'r tymor rasio
Updated: 6 days ago

Daeth tymor Clwb Rhwyfo Beaumaris i ben mewn ffordd arbennig, wrth i’r clwb ennill sawl tlws yn ras olaf Cynghrair y Gogledd yng Nghaernarfon.
Roedd rasys Caernarfon wedi’u gohirio yn gynharach yn y tymor oherwydd tywydd garw, ond er gwaethaf glaw a gwyntoedd cryfion ddydd Gwener a dydd Sadwrn, roedd yn fore Sul delfrydol ar gyfer rhwyfo wrth i’r clybiau a’u cychod ymgynnull dros yr aber.
Mae hi wedi bod yn dymor cymysg i ferched Beaumaris, gyda Chlwb Rhwyfo Porthmadog yn arwain y ffordd gan ennill tair o bum ras gyntaf y tymor ac Aberdyfi’n ennill y ddwy ras arall.
Ond yng Nghaernarfon llwyddodd dau o gychod Beaumaris i arwain y ffordd wrth i Menai a Cybi sicrhau dechrau arbennig i’w ras gan ddefnyddio’r llanw’n berffaith.
Ras wych i ferched Beaumaris
Roedd y ddau griw ymysg y ceffylau blaen wrth gyrraedd y bwi cyntaf ond cafodd Menai eu dal mewn gwrthdrawiad efo Madog o glwb MYC Porthmadog gan adael i Cybi a’r criw o Emily, Catrin, Karen a Mel dan arweiniad John Bach agor bwlch rhyngddyn nhw a gweddill y ras.

Wrth i’r ras droi yn ôl tua Doc Fictoria, llwyddodd Menai a’r criw o Mari, Nia, Ingrid a Vicky a’u cocs, Mike, i wneud yn iawn am y gwrthdrawiad gan basio sawl un o’r cychod eraill i adennill eu lle tua brig y ras.
Roedd gan Cybi fantais iach iawn wrth droi o amgylch y bwi olaf, gyda Blodwen o Glwb Rhwyfo Porthmadog yn ail a Menai yn drydydd.
Gwibiodd Cybi dros y llinell derfyn er mwyn sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf o’r tymor, a bu ond y dim i Menai ddal Blodwen ar y llinell derfyn, gyda’r criw o Borthmadog yn gorffen eiliad union ar y blaen.
Yn anffodus i Menai, cafwyd cwyn am eu gwrthdrawiad ar y bwi cyntaf, gyda chyfarwyddwr y ras yn cytuno â MYC Porthmadog fod eu symudiad o amgylch y bwi yn beryglus.
O ganlyniad cafodd Menai eu diarddel o’r ras.

Her o’r de i ddynion Beaumaris
Mae Aberdyfi wedi ennill pob un o rasys y dynion y tymor yma, a doedd ras Caernarfon ddim yn wahanol wrth i griw agored Clychau arwain y ras o’r gwn i’r llinell derfyn.
Roedd Clwb Rhwyfo Aberteifi wedi teithio i’r gogledd ar gyfer ras olaf y tymor ar ôl ennill categori Uwch Fet Cynghrair y De, ac roedd eu brwydr gyda Menai a’u criw o Mike, Challis, Justin a John Bach, gydag Ingrid yn cocsio, yn llwyr gyfiawnhau eu penderfyniad.
Roedd angen i Menai orffen ar y blaen i Afon o Aberdyfi er mwyn ennill categori Uwch Fet Cynghrair y Gogledd, ond Aberteifi yn eu cwch 35 Seconds Ahead oedd eu prif wrthwynebwyr.
Cafwyd ras wych rhwng y ddau gwch gyda Menai yn llwyddo i ddal 35 Seconds Ahead wrth droi’r bwi cyntaf ond doedd bechgyn Aberteifi ddim am ildio heb frwydr a bu’r ddau gwch ochr yn ochr am y rhan fwyaf o ail gymal y ras.
Unwaith i Menai agor bwlch, llwyddodd y criw o Beaumaris i gyrraedd y bwi olaf gyda digon o fwlch i rwyfo dros y llinell derfyn yn yr ail safle a sicrhau pencampwriaeth Uwch Fet Cynghrair y Gogledd.
Gan mai dim ond un pwynt oedd ei angen ar Beaumaris yng Nghaernarfon er mwyn sicrhau’r bencampwriaeth Fet yng Nghynghrair y Gogledd, llwyddodd Mari i gocsio Arwel, Gary, Lee a Simon i’r chweched safle yn Cybi ac ychwanegu’r goron Fet at yr un Uwch Fet.

Mwy o lwyddiant i Beaumaris
Gyda’r llanw wedi troi erbyn y ras gymysg, penderfynwyd cwtogi’r cwrs a chynnal ras i lawr at y bwi cyntaf ac yna’n syth yn ôl i Borth yr Aur.
Cafwyd dechrau anhrefnus tu hwnt, gyda chychod yn gwneud eu gorau glas i aros y tu ôl i’r llinell gyda llif cryf y tu ôl iddyn nhw. Roedd y cychod yn frith draphlith ac yn wynebu i bob cyfeiriad pan daniwyd y gwn i gychwyn y ras.
Ond llwyddodd Menai, gyda Catrin yn cocsio ei ras gyntaf, i gael y cychwyn perffaith wrth i Mike, Nia, Ingrid a Challis fanteisio ar y llanw i gyrraedd y bwi ar flaen y ras.
Wedi troi’r bwi, llwyddodd Menai i ganfod y llinell agosaf at y lan er mwyn osgoi rhwyfo yn erbyn y llanw cryf, a doedd dim un cwch yn mynd i’w dal wrth iddyn nhw sicrhau ail fuddugoliaeth y prynhawn i glwb Beaumaris.
Diolch, fel arfer, i Glwb Hwylio Brenhinol Cymru am y trefniadau a’r croeso ac am ddiweddglo penigamp i dymor rhwyfo Cynghrair y Gogledd.






Comments