Coron driphlyg i Aberdyfi
- 2 days ago
- 3 min read

Roedd yr amodau bron yn berffaith ar gyfer Ras Gynghrair Beaumaris ddydd Sul gyda'r tywydd poeth diweddar yn gostegu a'r gwyntoedd arfordirol diweddar yn tawelu mewn pryd.
Gyda 23 o gychod o 13 clwb gwahanol yn cymryd rhan, roedd y traeth a'r Clwb Hwylio yn llawn cyffro wrth i rwyfwyr a chefnogwyr ymgynnull am eu brecwast a sesiwn briffio'r cocsys.
Y broblem fwyaf oedd yn wynebu'r criwiau oedd diffyg dŵr yn y sianel oherwydd y llanw mawr, cymaint felly fel bod yn rhaid byrhau Ras y Merched gan fod tri o'r bwiau marcio dal yn sownd ar fanciau tywod Menai.
Gydag 19 o gychod yn brwydro am safle ar y llinell gychwyn, roedd hi’n ddechrau anhrefnus, bron yn anarchig gyda rhwyfau a chychod yn taro i mewn i’w gilydd o un pen i’r sianel i’r llall!
Llwyddodd Clychau o Aberdyfi i gadw draw o'r gwaethaf o'r frwydr gyda Blodwen o Glwb Rhwyfo Porthmadog yn dyn ar eu sodlau wrth i bawb anelu am fwi B8 ym Mae Fryar.
Mae'r ddau griw wedi arwain y ffordd yn rasys y Merched hyd yn hyn y tymor hwn gyda Blodwen yn cipio'r buddugoliaethau ym Moelfre ac Aberystwyth tra bod Clychau yn fuddugol yn eu ras gartref yn Aberdyfi.
Wedi rasio am 4km o B8 i Hwfa, sydd ychydig oddi ar Bier Biwmares, dim ond 14 eiliad oedd yn gwahanu’r ddau gwch wrth iddynt groesi'r llinell gyda Clychau yn cipio'r fuddugoliaeth a'r wobr Agored.
Blodwen oedd yn ail gan sicrhau'r wobr yn y categori Fets gyda Fleetwing o MYC Porthmadog 15 eiliad ymhellach yn ôl yn y drydedd safle yn cipio tlws yr UwchFets.
Chwaraeodd y llanw ei ran yn cwtogi ras y Dynion i 4.5km hefyd gyda dau o'r bwiau marcio yn dal i fod ar y tywod a, gyda 16 o gychod yn cymryd rhan, roedd y dechrau yr un mor wyllt â ras y Merched.
Cafodd rhai o’r ffefrynnau eu dal yn yr anhrefn ar y llinell gychwyn ond llwyddodd Clychau o Aberdyfi, sydd wedi llwyr reoli’r tymor hyd yn hyn, i gael dechrau perffaith a thynnu’n glir o’r fflyd ymhell cyn y tro bwi cyntaf ym Mae Fryar’s.
Roedd Cybi a Menai o Beaumaris, Blodwen o Glwb Rhwyfo Porthmadog ac Afon o Aberdyfi wedi tynnu’n glir o weddill y ras wrth iddyn nhw frwydro am yr ail safle.
Ond wrth i’r cychod droi o gwmpas y bwi olaf, roedd yn hollol amlwg y byddai Clychau yn cipio eu pedwerydd buddugoliaeth o’r bron a’r wobr Agored, tra bod Blodwen wedi agor bwlch ar y tri chwch arall i sicrhau’r ail safle a’r wobr Fets.
Mewn diweddglo hynod o agos, llwyddodd Cybi gadw ar y blaen i Menai o 6 eiliad yn unig er mwyn sicrhau’r trydydd safle a’r wobr UwchFets gydag Afon yn gorffen 5 eiliad tu ôl i Menai yn y 5ed safle.
Erbyn i’r Ras Gymysg gychwyn roedd y llanw ar ei anterth oedd yn golygu byddai’r 21 o gychod - record ar gyfer ras gynghrair yn Beaumaris - yn rasio’r cwrs 5.5km yn ei gyfanrwydd.
Er gwaethaf sianel lletach, roedd y llanw cryf yn achosi ei broblemau ei hun gyda sawl cwch yn cystadlu am le yn nes at arfordir Ynys Môn fu ond y dim yn gyfrifol am i’r ras gychwyn ar gam.
Ond wedi cychwyn y ras Clychau o Aberdyfi oedd y cryfaf gan agor bwlch ar Menai a Seiriol o Beaumaris, Calon ac Afon o Aberdyfi a Thal y Fan o CYC Deganwy wrth rwyfo yn erbyn y llanw tuag at Fae Fryars.
Ar ôl y tro cyntaf, trodd y ras ar draws y culfor cyn dychwelyd yn ôl tuag at Beaumaris gyda chriw cryf Clychau yn manteisio ar y llanw i’r eithaf er mwyn agor bwlch sylweddol ar weddill y fflyd.
Er gwaetha’r ffaith bod y 500m olaf yn erbyn y llanw unwaith yn rhagor, sicrhaodd Clychau'r fuddugoliaeth orau o’r holl rasys gan orffen bron i ddwy funud ar y blaen i Menai, orffennodd yn ail.
Gyda Clychau yn cipio’r wobr Agored a Menai yn cipio gwobr y Fets, sicrhaodd Tal y Fan y trydydd safle a’r wobr UwchFets er mwyn dod a diwrnod rhagorol o rasio i ben.

Fel yr arfer, daeth y diwrnod i ben gyda bwyd rhagorol a’r seremoni ganlyniadau a hoffai’r clwb ddiolch i’r holl wirfoddolwyr a helpodd gyda’r arlwyo a’r golchi llestri.
Hoffai’r clwb hefyd ddiolch yn fawr iawn i griwiau cychod diogelwch Clwb Hwylio Brenhinol Ynys Môn a’r criwiau llinell, heb y gwirfoddolwyr yma ni fyddai modd cynnal y rasys.








Comments