top of page

Menai’n ennill am yr ail fwlyddyn yn olynol

  • 3 hours ago
  • 2 min read

Cychod yn rasio tuag at Ynys Seiriol
Cychod yn rasio tuag at Ynys Seiriol

Roedd yr amodau'n berffaith ar gyfer Ras Her Ynys Seiriol ddydd Sadwrn, wrth i ddwy ar bymtheg o gychod o wyth clwb gwahanol baratoi ar gyfer y ras 18 km.

 

Gyda’r ras yn cychwyn tua awr ar ôl y llanw isaf, doedd dim llawer o ddŵr wrth i’r cychod geisio sicrhau’r lle dechrau gorau, tra hefyd yn ymwybodol o'r gwynt oedd yn eu chwythu'n beryglus o agos at y llinell gychwyn.

 

Wedi tanio’r gwn i gychwyn y ras cafwyd sawl digwyddiad o rwyfau’n dod ynghyd ac hyd yn oed ambell i gwch yn taro eu gilydd wrth i bawb frwydro i basio’r hen bwll nofio ac allan i Fae Fryar.

 

Roedd cwch buddugol y llynedd, Menai o Beaumaris, ymysg y rhai cafodd eu dal yn y brwydro cynnar cyn llwyddodd i gadw cysylltiad efo blaen y ras.

 

Wrth i'r cychod basio Porth Penmon a'r hen chwarel, roedd y fflyd wedi rhannu'n ddwy ras wahanol, gyda'r wyth cwch cyntaf yn agor bwlch ar y gweddill wrth iddynt anelu am yr ynys.

 

Yn union yr un fath a ras llynedd, Menai a Beca o Glwb Rhwyfo Porthmadog oedd y cychod cyntaf i gyrraedd pen dwyreiniol yr ynys, fodd bynnag, y dyfroedd garw o amgylch rhan ogleddol yr ynys oedd y gwahaniaeth rhwng y ddau griw.

 

Manteisiodd Menai i'r eithaf ar yr amodau caled, gan rwyfo trwy'r tonnau a phasio Beca wrth i'r ddau griw anelu at oleudy enwog Trwyn Du a Charreg Edwen.

 


Seiriol, Cybi a Mabli yn brwydro trwy'r tonnau
Seiriol, Cybi a Mabli yn brwydro trwy'r tonnau

Profodd y tonnau'n waith caled i’r holl griwiau wrth iddynt rwyfo o amgylch yr ynys, ond roedd yn olygfa bendigedig i’r teithwyr ar y cychod pleser oedd hefyd yn amgylchynu'r ynys.

 

Wrth i’r ras droi yn ôl am Beaumaris, llwyddodd Menai i gadw ar y blaen i Beca gan gyrraedd yn ôl i’r dref mewn 1 awr 38 munud 36 eiliad a sicrhau buddugoliaeth am yr ail flwyddyn yn olynol.

 

Gorffennodd Beca 46 eiliad tu ôl i Menai, gyda Revi o Glwb Rhwyfo Shropshire Adventure yn hawlio'r trydydd safle, 1 funud 48 eiliad y tu ôl i Beca.

 

Menai (ch i dd: John, Mike, Richarfd, Challis a Lee) yn dathlu eu buddugoliaeth
Menai (ch i dd: John, Mike, Richarfd, Challis a Lee) yn dathlu eu buddugoliaeth

Copar Ladis o glwb Ynys Môn oedd y criw cymysg cyntaf i gyrraedd adref, gan orffen yn bedwerydd, gyda Blodwen o Glwb Rhwyfo Porthmadog yn ennill ras y merched am yr ail flwyddyn yn olynol.


Fel yr arfer, cafwyd pryd o fwyd rhagorol ar ôl y ras, gyda digon o fwyd — a chacen — i'r holl rwyfwyr a chefnogwyr cyn y seremoni wobrwyo, diolch i wirfoddolwyr gwych Clwb Rhwyfo Beaumaris.


Canlyniadau 20 Mehefin 2026
Canlyniadau 20 Mehefin 2026


Comments


bottom of page