top of page

RhMC Cynghrair ar y Cyd - Aberystwyth

  • Jul 13
  • 2 min read
Tîm cymysg Menai yn rasio trwy'r tonnau
Tîm cymysg Menai yn rasio trwy'r tonnau

Roedd yr amodau'n llawer mwy ffafriol yn Aberystwyth eleni, o'i gymharu â’r ras gafodd ei chanslo’n rhannol y llynedd ond roedd y dŵr yn dal yn eithaf garw o'i gymharu â'r hyn yr ydym ni wedi arfer ei rwyfo ar y Fenai.

 

Mae Aberystwyth yn un o dair ras gynghrair ar y cyd lle mae clybiau o Gynghrair y Gogledd a Chynghrair y De yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ac roedd yn fore prysur yn y marina wrth i 24 o gychod o 12 clwb aros i allu lansio i'r dŵr cyn cael brecwast a’r sesiwn briffio cocsys.

 


Cybi yn paratoi i rasio
Cybi yn paratoi i rasio

Ras y merched oedd y gyntaf i gychwyn gydag 17 o gychod yn brwydro am safle ffafriol ar y llinell gychwyn allan ym Mae Ceredigion. Roedd y ras fer 6km yn cychwyn trwy rwyfo 1.5km yn erbyn llan tua’r de cyn troi tua'r gorllewin ar draws y tonnau am 1.5km arall ac yna gwibiad o 2km yn ôl i'r harbwr a’r llinell derfyn.

 

Llwyddodd Blodwen o Glwb Rhwyfo Porthmadog i barhau â’u dechreuad gwych i'r tymor gyda buddugoliaeth wych mewn ras hynod o gryf, gan guro'r ddau griw o Glwb Rhywfo Llangwm sydd, ar hyn o bryd, yn arwain eu categorïau yng Nghynghrair y De.

 

Gorffennodd Cybi o Beaumaris yn y pumed safle clodwiw iawn, dim ond 39 eiliad y tu ôl i'r cwch buddugol a gan rasio'n galed i'r llinell ochr yn ochr a Cyngar Stinger o Langwm gyda dim ond pum eiliad yn gwahanu'r ddau gwch.

 

Gwelodd ras y dynion 13 o gychod yn cystadlu gyda record 100% cwch Clychau o Aberdyfi yn parhau wrth iddynt ennill y ras mewn 26’21”. Daeth y ddau gwch sy’n arwain Cynghrair y  De, Kiddles o Llangwm a Moby Dick o Glwb Rhwyfo Jemima Abergwaun ac Wdig, yn ail a thrydydd gyda Menai o Beaumaris yn cadw ar y blaen i griw penderfynol Ceridwen o Aberystwyth er mwyn sicrhau’r pedwerydd safle.


Tîm y dynion yn rasio yn Cybi
Tîm y dynion yn rasio yn Cybi

 

Wrth i’r gwynt godi, byrhawyd cwrs y Ras Cymysg, ras olaf y dydd, i 5km, a chyda 21 o gychod yn rasio, roedd y llinell gychwyn yn anhrefn llwyr wrth i gychod geisio dod o hyd i’r safle gorau tra’n brwydro yn erbyn y gwynt oedd yn chwythu pawb yn ôl tua’r harbwr!

 

Ar ôl sawl munud o badlo, padlo am yn ôl, gwthio, cwffio a bygwth gwaharddiad, llwyddodd y ras i gychwyn mewn rhyw fath o drefn!

 

Yn union fel yn ras y dynion, llwyddodd Clychau o Aberdyfi i gynnal eu record 100%, gyda Kiddles o Langwm yn gorffen yn yr ail safle. Llwyddodd Branwen o Aberystwyth i orffen ychydig ar y blaen i Menai o Beaumaris a chipio’r trydydd safle.

 

Mae pedwerydd safle Menai yn eu gweld yn cau'r bwlch ar Siwan yn nghategori'r Fets yng Nghynghrair y Gogledd. Er i Siwan orffen yn y 9fed safle mae’r criw dal ar y blaen o 27 pwynt o'i gymharu â 23 pwynt Menai.

 


Disgwyl y canlyniadau
Disgwyl y canlyniadau

Roedd y croeso yn Aberystwyth mor gynnes ag erioed gyda'r holl rwyfwyr yn cymdeithasu dros ginio ar ôl y ras wrth aros am y seremoni canlyniadau ac edrych ymlaen at Ras Cynghrair y Gogledd nesaf yn Beaumaris ar 19 Gorffennaf.



 
 
 

Comments


bottom of page