Ras Castell i Gastell yn dathlu ei benblwydd yn 20

Roedd hi’n fore llwyd a gwlyb yn Beaumaris wrth i 24 cwch o 12 clwb baratoi ar gyfer ras flynyddol Castell i Gastell. Yn dathlu ei benblwydd yn 20 eleni, mae’r ras yn parhau i fod yn un o berlau calendr Rhwyfo Môr yng Nghymru, gan ddilyn cwrs gorllewinol 20km rhwng y ddwy dref hanesyddol.
Er y glaw, roedd Beaumaris yn hynod o brysur. Ochr yn ochr â’r 116 o rwyfwyr a chocswyr, roedd y Bad Achub yn cynnal Diwrnod Bad Achub y dref, felly, wrth i'r criwiau lithro i'r dŵr, cawsant eu hanfon ar eu taith gan sŵn siantis môr yn atseinio o'r lan, cychwyn mor arbennig fel y gallai ddod yn draddodiad ynddo'i hun!
Roedd cerrynt cryf yn llifo tua Phorthaethwy, gan ychwanegu elfen o ddrama at y cychwyn. Wedi'r rhybudd pum munud, roedd sawl criw yn ymdrechu i ddal eu safle y tu ôl i'r llinell gychwyn, tra roedd y cychod diogelwch yn brysur yn cadw trefn ar y dŵr.
Pan seiniodd y corn i gychwyn y ras, roedd ambell gwch yn dal i wynebu'r cyfeiriad anghywir, gan roi dechrau bywiog a chofiadwy - am y rhesymau anghywir - i'r ras!
Llwyddodd Clychau Aberdyfi, a’u criw o ddynion sydd yn ddiguro yn y Gynghrair eleni, i gymryd y blaen yn gynnar iawn wrth i'r fflyd rasio tuag at Benrhyn Safnas ond roedd criw cymysg Menai o Beaumaris yn dyn ar eu sodlau.
Roedd hi’n ras dynn gyda’r rhan helaeth o’r fflyd yn pasio Pier Bangor gyda'i gilydd cyn anelu at Ynys y Bîg, Ynys Castell, Ynys Gaint ac Ynys Faelog.
Cysylltiad Olympaidd
Go brin fod y criwiau oedd yn rhwyfo heibio yn ymwybodol o’r cysylltiad sydd rhwng Ynys Gaint, yr ynys fwyaf o'r pedair ynys oddi ar arfordir Porthaethwy, a’r byd rhwyfo.
Prynwyd yr ynys breifat yma gan Syr William Guy Fison ym 1929, a Fison, a ddaeth, yn 3edd Barwn Greenholme, oedd yn un o wyth New College, Rhydychen a enillodd y fedal arian yng Ngemau Olympaidd Stockholm 1912.
Dwi’n amau’n gryf ei fod wedi ystyried rhwyfo Cychod Hir Celtaidd erioed, ond pwy a ŵyr?
Yn y cyfamser, roedd merched Siwan wedi manteisio i’r eithaf ar y llanw cryf gan basio Dafad Ddu o glwb Ynys Môn a Mary Meldrum o glwb Deganwy yng nghyfnod agoriadol y ras cyn troi eu golygon at geisio dal Pedr Sant a Gorn Gwynant o glwb Bae Colwyn.

Wrth basio hen gwt cychod Clwb Rhwyfo Prifysgol Bangor a nesáu at Bont Grog Menai dechreuodd y fflyd ymestyn a gwasgaru.
Roedd Seiriol a Mabli o glwb Beaumaris wedi bod mewn brwydr breifat ers y cychwyn ond llwyddodd Mabli i ganfod yr egni a'r nerth ychwanegol i dynnu'n glir cyn cyrraedd y bont enwog.
Gan nad oedd unrhyw basio'n cael ei ganiatáu rhwng y ddwy bont, profodd symudiad Mabli yn hollbwysig.
Agorodd y criw fwlch na allai Seiriol ei bontio — maddeuwch y pyn — gan olygu bod Mabli’n aros ar y blaen yr holl ffordd i Gaernarfon.
Wrth i'r cychod rwyfo o dan Bont Britannia, pasiwyd Carreg Frydan, craig y mae llawer yn credu iddi chwarae rhan yn enw anghywir i'r bont.
Carreg Frydan yw'r graig y gosododd Robert Stephenson un o dyrau canolog y bont arni. Fodd bynnag, daw brydan o'r gair Cymraeg brwd, sy’n ddisgrifiad cwbl addas o'r dŵr ffyrnig sy'n llifo heibio i'r graig.
Camddehonglwyd yr enw fel Prydain, a’r cam naturiol nesaf oedd ei Seisnigeiddio yn Brittania.
Cyrraedd hanner ffordd Ar ôl Pont Britannia daeth y wal o amgylch Ystâd y Faenol ar lannau Gwynedd i’r golwg, ac yna Plas Newydd, sedd Marcwis Môn, ar y lan gyferbyn, gan nodi bod y ras wedi cyrraedd hanner ffordd.
Dechreuodd y sgwls, oedd wedi cychwyn pum munud ar ôl y cychod hir, i weithio eu ffordd drwy'r ras. Y sgwl cyntaf i wibio heibio oedd criw dynion Dwyryd o MYC Porthmadog, gyda chriw cymysg Beaumaris yng Nghwch y Cedyrn yn ail agos.
Ar ôl pasio’r Faenol, mae pentref Felinheli yn ymddangos ac yn diflannu bron cyn i'r criwiau gael cyfle i godi eu pennau wrth i’r ras droi at ddarn twyllodrus o hir rhwng Felinheli, Plas Menai a chyn gorsaf rheilffordd Griffiths Crossing.
Gyda chyffro mynd o dan y pontydd wedi hen basio, dyma'r darn lle mae'r ras yn dechrau pwyso ar y corff: y coesau'n llosgi, a'r meddwl yn cyfrif pob strôc — ond roedd tua 6km o waith caled eto i ddod.

Roedd Cybi eisoes wedi pasio Copr Ladi o glwb Ynys Môn a Blodwen o Glwb Rhwyfo Porthmadog cyn brwydro am y rhan helaeth o ail hanner y ras gyda Ceridwen o Aberystwyth.
Llwyddodd penderfyniad amlwg Cybi i dalu ar ei ganfed wrth iddynt orffen y ras 23 eiliad ar y blaen i’r cwch o’r canolbarth.
Amodau bron yn berffaith
Er gwaethaf y glaw, roedd yr amodau rasio bron yn berffaith: llanw cryf, bron dim gwynt, a dŵr cyflym drwyddo draw. Roedd cyflymder y ras yn amlwg gyda bron pob cwch yn ceisio dal un arall yn yr ychydig gilometrau olaf.
Adlewyrchwyd cyflymder y ras yn y canlyniadau. Llynedd llwyddodd y Cwch Hir Celtaidd cyflymaf i orffen y ras mewn 1:52:13, tra bod Aberystwyth wedi ennill yn 2024 gydag amser o 1:41:50. Eleni, llwyddodd Clychau i chwalu’r amseroedd yma gan ennill y ras Cychod Hir Celtaidd mewn 1:32:08.
Roedd amseroedd y sgwliau yr un mor drawiadol. Llwyddodd Dwyryd i ennill y ras mewn 1:25:08, gan guro'r amseroedd buddugol o'r ddwy flynedd flaenorol yn gyfforddus.
Roedd yn ddiwrnod ardderchog i’r chwe chwch o Beaumaris. Gorffennodd Menai yn yr ail safle ymysg y Cychod Hir Celtaidd gan ennill y categori Cymysg cyffredinol a'r categori Cymysg Fet, Cybi oedd y trydydd Cwch Hir Celtaidd i orffen gan ennill y categori Cymysg Agored a gorffennodd Cwch y Cedyrn fel yr ail sgwl yn y ras gan ennill y categori Sgwl Cymysg.

Diolch yn fawr iawn i Glwb Hwylio Brenhinol Cymru, Caernarfon am eu trefniadau gwych a'u croeso cynnes ar ben-blwydd y ras yn 20 oed. Diolch hefyd i aelodau Clwb Rhwyfo Beaumaris a helpodd i drefnu dadlwytho’r cychod a chadw'r rhwyfwyr wedi'u bwydo a'u dyfrio ar y llinell gychwyn.
Hoffem hefyd ddiolch yn arbennig i RNLI Beaumaris am eu cydweithrediad ar y llinell gychwyn yn ystod eu Diwrnod Bad Achub hynod o brysur a llwyddiannus.






Comments